Trosi testun o un iaith i iaith arall. Bydd rhaid meddu ar ddealltwriaeth arbennig o'r iaith/ieithoedd cyfieithu dewisol. Bydd yn cyfieithu deunyddiau fel gwerslyfrau, adroddiadau a chofnodion o gyfarfodydd. Yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o gyfieithwyr yn cyfieithu i, neu o'r, Saesneg i, neu o'r, Gymraeg. Rhaid sicrhau bod yn cadw at ystyr cywir y testun gwreiddiol. Gall gyfieithu llyfrau, barddoniaeth neu ddramâu sydd mewn iaith arall. Bydd angen sicrhau eich bod yn cyfleu naws ac arddull y gwaith gwreiddiol.