Please enable JavaScript.
Coggle requires JavaScript to display documents.
Cysyniad Cydbwysedd Màs a System - Coggle Diagram
Cysyniad Cydbwysedd Màs a System
Storfeydd yn y gylchred ddŵr (hydrolegol)
Amrywiaeth yn yr storfeydd
Amser - hyd yr amser caiff y dŵr ei storio amdan; gall rhwng ddyddiau i filenia
Cyfaint - mae swm y dŵr a storyd yn amrywio. Yr storfa fwyaf yw'r cefnforoedd (96%) a'r lleiaf yw'r atmosffer (0.001% o dŵr y byd)
Dosbarthiad
Atmosffer - anwedd dŵr
Cefnforoedd - dŵr môr, llenni iâ sy'n arnofio (fel mwyafrif o gap iâ'r Arctig) a mynyddoedd iâ
Tir - mewn pridd neu creigiau (dyfrhaenau), llystyfiant, corsydd, llynnoedd, ac iâ ddaearol (rhew ar y tir, fel rhewlifoedd mynyddoedd)
Cryosffer - yr holl ddŵr sydd wedi'i storio fel rhew, ar y tir ac yn y cefnforoedd
Newid mewn storfeydd ddŵr dros amser
Blynyddol (tymhorol)
Mae
amrywiad mewn ongl echel
y blaned ar ddraws y flwyddyn, efo pegwn y gogledd yn wynebu tuag at yr haul yn ystod yr haf. Mae hyn yn golygu fod y cryosffer mewn cydbwysedd màs negyddol yn yr haf, efo mwy o rew yn ddadmer nag dŵr yn rhewi. Mae'r cyferbyn yn wir yn y gaeaf
Tymor byr (12-18mis)
Tua pob 7 blwyddyn mae gwyntoedd cyson de ddwyrain ar hyd y cefnfor tawel yn marw i lawr neu'n newid cyfeririad. Hyn yw ffenomen a gelwir yn yr
El Nino
ac o ganlyniad mae arwyneb y môr yn cynhesu, ac felly mae'r cryosffer yn yr ardal yn lleihau.
Tymor hir (degawd-canrif-milenia)
Llwybr Orbit
Nid yw llwybr orbit unrhyw blaned yn cylch berffaith, felly weithiau mae'r ddaear yn pellhau o'r haul am gyfnod o'r flwyddyn. Mae hyn yn golygu tymereddau is nag arfer, ac o ganlyniad cydbwysedd mas positif i'r cryosffer
Oes iâ fechan
Credwyd fod y swm o egni solar a gynhyrchir gan yr haul wedi leihau rhwng 1250 ag 1850, o ganlyniad i llai o stormydd electromagnetig ar arwyneb yr haul. Felly roedd tymereddau is, a cydbwysedd mas fwy positif i'r cryosffer yn yr gaeaf
Cylch Milankovitch
Digwyddir rhain ar raddfa
milenia
, pan mae newidiadau i ongl echel ac/neu llwybr orbit y ddaear yn newid ei pellter o'r haul. E.e os yw'r ongl echel yn is wedyn mae'r blaned yn derbyn llai o egni solar yn yr haf, ac felly mae llai o rhew yn ddadmer = cydbwysedd màs positif
Trosglwyddiad yn y gylchred ddŵr
Mathau o symudiad
Anwedd-drydarthiad:
Troi dŵr (hylif) i anwedd dŵr (nwy). Yn anweddu o unrhyw wyneb llaith, e.e llyn, pwll, pridd. Trydarthiad yw'r colled o anwedd dŵr drwy lystyfiant, drwy stomata'r dail (tyllau microsgopig)
Dyodiad:
Anwedd dŵr (nwy) yn dychwelyd i'r tir trwy dyodiad. Caiff ei achosi pan mae'r anwedd ddŵr yn oeri a cyddwyso, sy'n ffurfio cymylau ac wedyn dyodiad ar ffurf glaw neu eira.
Llif Trostir:
Ar ôl i'r lleithder atmosfferig cael ei drosglwyddo i'r tir, caiff ei drosglwyddo i'r cefnforoedd gan llif trostir - dŵr ffo arwyneb, a llif sianel (afonydd)
Llif dŵr tanddaearol
Ymdreiddiad:
trosglwyddiad fertigol o ddŵr i fewn i'r pridd o'r wyneb
Llif Trwodd:
symudiad ochorol dŵr trwy pridd, fel arfer i fewn i afonydd neu'r môr
Trylifo:
trosglwyddiad fertigol o ddŵr i fewn i creigiau athraidd
Llif dŵr ddaear:
symudiad ochorol dŵr trwy creigiau, fel arfer i mewn i afonydd neu'r môr
Prosesau trosglwyddo'r cryosffer
Ar dir sy'n uwch ac/neu sy'n bellach o'r arfordir mae eira yn disgyn (atmosffer i daear) ac yn cynyddu trwch y rhew. Wrth i'r rhewlif llithro tuag at y cefnfor mae rhannau ohono yn dechrau dadmer (ddaear i ddaear). Pan mae'r rhewlif yn cyrraedd yr arfordir mae rhannau ohono'n torri i ffwrdd ac yn disgyn i mewn i ffurfio mynyddoedd iâ, hyn yw ymrannu (calving)
Ffactorau sy'n dylanwadu ar drosglwyddo dŵr
Tymhorau:
tymor gwlyb = dyodiad
tymor sych = anwedd-drydarthiad
Storm (tymor byr):
llawer o dyodiad a llif trostir o amodau tirlawn
Dylanwad dynol:
Amaethyddiaeth a trefoli - tir llai athraidd, a sianeli yn golygu mwy o llif trostir, a llai o llif tanddaearol
Math o hinsawdd:
hinsawdd gwlyb am profi mwy o dyodiad, hinsawdd oer am
Tirwedd a daeareg:
tir gwastad, pridd dwfn, a craig athraidd am profi llawer o llif dŵr tanddaearol