Please enable JavaScript.
Coggle requires JavaScript to display documents.
Datrysiadau i atal hiliaeth - Coggle Diagram
Datrysiadau i atal hiliaeth
Dysgu plant mewn ysgolion yn ifanc am hiliaeth
Mae hiliaeth yn aml yn cael ei ddysgu gan rheini neu dylanwadau eraill ar blant. Mae'r dyfyniad gan Nelson Mandela "No one is born hating another person because of the color of his skin" yn dangos y pwysigrwydd i ddysgu plant yn ifanc (mewn oed rhesymol) bod hiliaeth yn anghywir a dangos pa effeithiau mae hiliaeth yn gael ar blant a phobl ddu.
Cryfderau
Bydd dysgu plant yn ifanc yn helpu wrth i'r gwybodaeth aros yn eu meddwl. Bydd yn haws gan bydd plant heb gael lawer o ddylanwad ar hiliaeth felly bydd yn haws eu dysgu neu eu argyhoeddi mewn ffordd.
Bydd creu gweithgareddau hwylus am stereoteipiau ayyb yn ei wneud yn haws i blant ddysgu am hiliaeth mewn ffordd gweithredol wrth ddangos ei bwysigrwydd.
Gwendidau
Mae'n pwnc eithaf difrifol a thrwm i ddisgyblion ifanc felly efallai fydd yn ormod i ddelio gyda neu fydd rhieni yn cwyno bod ysgolion yn ei ddysgu.
Efallai bydd rhai disgyblion yn gweld y pwnc yn ddryslyd neu ddim yn deall. Efallai bydd dylanwad rhiant hiliol yn drysu neu gorbweru safwbynt y plentyn.
Galw allan a dysgu pobl am bigotry a chasineb
Bydd cael trafodaeth agored ac addysgu pobl am hiliaeth yn gallu newid eu perspectif ohono. Engraifft o hyn yw Rio Ferdinand pan mi wnaeth o dderbyn aflonyddu hiliol mewn gem yn Wolverhampton. Rhanodd tweet ar ol y gem yn dweud "Come meet me & I will help you understand what it feels like to be racially abused". Mae hyn yn ffordd mwy heddychlon a chytgord o ddelio gyda hiliaeth a ceisio ei atal.
Trefnu brotestiadau yn erbyn hiliaeth yn eich cymuned
Bydd protestiadau yn lledaenu neges o hiliaeth wrth i newyddion a papurau newydd ei rannu hefyd os mae'r protest yn digon mawr. Gyda'r pandemig hefyd, buasai'n bosib i wneud protestiadau gyda pellter cymdeithasol hefyd.
Cryfderau
Mewn nifer o achosion protestiadau yn y gorffennol, mae'r calyniad yn aml o'u plaid. Gyda digon o brotestiadau, bydd yn bosib i gwneud newidiadau pwysig er mwyn tegwch i bobl ddu.
Bydd protestiadau heddychlon yn cael lawer o sylw gan y cyfryngau a'r newyddion felly bydd y pwnc hiliaeth yn cael ei wneud yn pwnc llosg a mwy o bobl yn dechrau poeni amdano.
Bydd protestiadau yn creu gosodiad o undeb a gryfder ac yn dangos bod pobl ddim am wneud fyny gyda hiliaeth neu cam drin hiliol. Bydd hefyd yn cryfhau cymunedau os oes achos o hiliaeth mewn cymunedau lleol penodol.
Gwendidau
Mae'n bosib gall protestiadau heddychlon droi yn dreisgar fel y protestiadau BLM yn Mehenfin 2020. Gall hyn arwain at anafiadau neu pobl yn colli eu bywydau. Mae hyn yn wendid amlwg iawn.
Gyda cyfyngiadau COVID19, bydd yn anodd trefnu protestiadau os ame yna drydedd don o'r pandemig. Efallai bydd cyfnodau clo neu bydd yn anodd eu trefnu oherwydd pellter cymdeithasol.
Bydd protestiadau mawr yn gallu blocio traffig a lonydd felly bydd hyn yn cael sgil-effaith ar bywydau a swyddi pobl sydd ar ffordd i'w gwaith ayyb.
Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am hiliaeth
Bydd defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddiol wrth greu grwpiau a tudalenau er mwyn rhannu neges am hiliaeth. Bydd pobl yn gallu rhannu eu profiadau ac efallai fydd pobl yn gweld caledi o hiliaeth ac efallai fydd hiliaeth yn lleihau.
Dechrau prosiectau er mwyn helpu pobl ifanc o gefndiroedd lleiafrif.
Buasai creu prosiectau a grwpiau cymorth er mwyn helpu pobl ifanc o gefndiroedd lleiafrif ac yn byw mewn llefydd tlawd yn eu helpu i osgoi gangiau ac aros allan o dorri'r gyfraith. Bydd hyn yn creu llai o stereoteip bod pobl o gefndiroedd lleiafrif fel pobl ddu neu latina yn droseddwyr a felly gall atal rhagfarn.
Gwendidau
Er buasai prosiectau yma yn gallu stopio stereoteipiau, tydy nhw ddim yn delio gyda problem hiliaeth yn uniongyrchol. Bysa hefyd yn cymryd blynyddoedd i stopio stereoteipiau yma felly mae'n fwy o gynllun tymor hir.
Bydd rhai pobl dal i weld pobl ddu neu sbaenaidd ayyb yn wael ac pob amser yn ei stereoteipio. Bydd yn anodd iawn torri stereoteipiau sydd wedi'w wreiddio o ganrifoedd o gasineb.
Efallai bydd y prosiect yn eithaf costus wrth ceisio creu gweithgareddau a cael pobl i siarad gyda'r pobl ifanc.
Cryfderau
Bydd cael noddwr yn bosib i'r prosiectau fel yma gan bod llawer o gwmniau neu pobl enwog yn aml yn hroi pres i prosiectau i helpu pobl ifanc o gefndiroedd anodd. Engraifft o hyn yw peldroedwyr fel Marcus Rashford neu Sadio Mane sydd wedi noddi lawer o arian i helpu prosiectau fel yma i bobl ifanc.
Bydd prosiectau yma hefyd yn gallu lleihau y cyfradd troseddu ymysg pobl ddu neu sbaenaidd ayyb. Bydd yn gallu arwain at ardaloedd i fod yn fwy ddiogel a llai o bobl ifanc mewn carchardai.
Bydd creu grwpiau fel hyn dim ond yn helpu torri stereoteipiau am bobl o gefndiroedd lleiafrif, bydd grwpiau a chynlluniau fel yma yn helpu dyfodol pobl ifanc o gefndiroedd anffodus am y gorau. Bydd yn helpu i ffeindio swydd sefydlog neu eu hannog i fynd i addysg bellach yn lle ymuno a gangiau a byddai'n gallu effeithio eu bywydau am y gwaethaf.