Please enable JavaScript.
Coggle requires JavaScript to display documents.
Cynllunio Cwricwlwm Maes Dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Coggle Diagram
Cynllunio Cwricwlwm
Maes Dysgu
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
:star:
Datganiadau o'r hyn sy'n bwysig
🔎 Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
Deall sut mae'r hyn rydym ni'n ei wneud yn effeithio'r amgylchedd. Disgrifio effeithiau gwyddoniaeth a thechnoleg, presennol a'r gorffennol, ar gymdeithas.
Cynllunio ymholiadau, dod i gasgliad, cysylltu i ddamcaniaethau, a gwerthuso ansawdd data.
Defnyddio a chymhwyso ystod i fodelau i esbonio, rhagfynegi, profi a gwrthbrofi damcaniaethau.
Dewis gwybodaeth wyddonol o ystod o ffynonellau tystiolaeth er mwyn gwerthuso honiadau a gyflwynir fel ffeithiau gwyddonol. Ystyried dilysrwydd tystiolaeth. Adolygu a gwerthuso damcaniaethau amgen, ble nad yw tystiolaeth yn cefnogi un canlyniad yn bendant.
👷 Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Ymchwilio, gwerthuso, dewis a chyfuno cydrannau, defnyddiau neu brosesau er mwyn gwella fy nghynnyrch terfynol.
Ymchwilio, dadansoddi ffynonellau hanesyddol a diwylliannol er mwyn dylunio datrysiadau. Adnabod anghenion a dymuniadau defnyddwyr a gweithredu arnynt mewn cyd-destunau gynyddol heriol.
Blaenoriaethu ffactorau sy'n llywio cynigion dylunio. Datblygu meddyflryd dylunio er mwyn profi a mireinio penderfyniadau dylunio. Datblygu sgiliau a gwybodaeth i gefnogi mireinio penderfyniadau dylunio er mwyn cael canlyniadau pwrpasol. Dilyn proses iterus i wella cynigion dylunio gan leihau eu heffaith negyddol ar yr amgylchedd a'r gymdeithas.
Defnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau cyfathrebu dylunio er mwyn datblygu a chyflwyno syniadau yn glir. Ymateb yn adeiladol i adborth.
Dewis a defnyddio offer a thechnegau arbennigol yn ddiogel. Defnyddio technegau prototeipio. Defnyddio sgiliau gwneud a gwybodaeth er mwyn sicrhau cynnyrch o safon uchel. Gwerthuso a chymhwyso arferion gweithio cyfrifol sy'n ystyried effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol.
🌍 Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
Disgrifio cyd-ddibyniaeth organebau mewn ecosystemau ac esbonio sut mae hyn yn effeithio ar eu siawns o oroesi. Esbonio sut y gall atgenhedlu, mwtaniadau a’r amgylchedd arwain at amrywiad ac addasiadau o fewn organebau a all effeithio ar eu siawns o oroesi.
Disgrifio lefelau trefniadaeth celloedd, a sut mae celloedd yn cyflawni prosesau biolegol sy’n sicrhau bod organebau’n datblygu a goroesi.
Esbonio’r bygythiadau i ddatblygiad ac iechyd organebau, a gallu disgrifio sut mae effeithiau’r rhain yn cael eu lleihau drwy amddiffynfeydd naturiol, ataliad haint a thriniaethau.
⚛️ Mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau.
Disgrifio ac esbonio priodweddau gwahanol fathau o fater a nodi sut mae hyn yn berthnasol i sut maen nhw’n cael eu defnyddio.
Disgrifio gwahanol fathau o adweithiau cemegol, egluro’r defnydd a wneir ohonyn nhw a nodi unrhyw effeithiau’r cynnyrch sy’n cael ei ffurfio. Defnyddio’r hyn rwy’n ei wybod am adweithiau cemegol i esbonio beth sy’n digwydd pan mae amodau yn cael eu newid.
Defnyddio gwahanol ddulliau i ddadansoddi defnyddiau er mwyn deall eu cyfansoddiad. Disgrifio sut mae angen gwahanol dechnegau i wahanu a phuro defnyddiau amrywiol.
⚡Mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd.
Esbonio a chyfrifo sut mae nifer o rymoedd sy’n gweithedau ar wrthrych yn effeithio ar ei fudiant.
Deall cadwraeth egni a gallu esbonio bod egni’n cael ei ddefnyddio ar wahanol gyfraddau, a bod hyn yn effeithio ar bŵer ac effeithlonrwydd system. Cymhwyso’r hyn rwy’n ei wybod am egni a grymoedd i ddyluniadau newydd, a gallu gwella effeithlonrwydd systemau.
Esbonio’r ffactorau sy’n effeithio ar gerrynt a disgrifio’r ffordd y mae’n ymddwyn mewn amrywiol gylchedau. Dylunio a chreu cylchedau fydd yn cyflawni gwaith penodol.
Rhagfynegi ymddygiad tonnau mewn gwahanol sefyllfaoedd. Trwy gymhwyso rheolau syml, rwy’n gallu defnyddio tonnau i ddysgu mwy am y byd o’m cwmpas.
Archwilio meysydd magnetig trwy arbrofi er mwyn ymchwilio i ffactorau sy’n effeithio ar eu cryfder. Cymhwyso fy nealltwriaeth o sut mae meysydd yn rhyngweithio er mwyn archwilio’r gwahanol ffyrdd o ddefnyddio magnetedd.
🖥️ Mae cyfrifiaduraeth yn gosod sail i’n byd digidol.
Dadelfennu problemau penodedig a dewis lluniadau addas i fynegi datrysiadau mewn amrywiaeth o amgylcheddau. Dewis a defnyddio strwythurau data sy’n rheoli data yn effeithlon mewn algorithmau. Cynllunio a gweithredu strategaethau profi er mwyn adnabod gwallau mewn rhaglenni.
Dethol a defnyddio nifer o synwyryddion ac ysgogyddion sy’n galluogi i systemau cyfrifiadurol ryngweithio gyda’r byd o’u cwmpas. Cymhwyso egwyddorion dylunio er mwyn dylunio ystod o ryngweithiau effeithlon ar gyfer defnyddwyr.
Esbonio sut mae systemau’n cyfathrebu, er mwyn dylunio rhwydwaith. Esbonio’r technegau a ddefnyddir i gadw a throsglwyddo data, a deall sut maen nhw’n agored i niwed.
Dewis y ffurf fwyaf addas o gadw data a’u harchwilio. Defnyddio gweithredyddion mathemategol a rhesymegol o fewn gwahanol feddalwedd er mwyn archwilio trywydd ymholi yn annibynnol.
:question:
Cwestiynau i'w hystyried
Sgwrs barhaus yn yr ysgol a thu hwnt gyda rhieni a'r gymuned ehangach, gan gynnwys busnesau ayyb.
Sut bydd hyn yn cefnogi ein dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben?
Beth y dylem ei ddysgu a pham?
Sut y dylem ei ddysgu? :
🔧
Sgiliau sy'n hanfodol
i'r pedwar diben
Effeithiolrwydd personol
Creadigrwydd ac arloesi
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
Cynllunio a threfnu
📈
Egwyddorion Cynnydd
: :
Cynyddu effeithiolrwydd.
Mireinio a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth ddefnyddio a chymhwyso sgiliau.
Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol
Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau o fewn y Meysydd.
Creu cysylltiadau a throsglwyddo dysgu i gyd-destunau newydd.